Ras rafftiau unigryw

Great Strait Raft Run 2025

Yn anffodus mae pwyllgor y Raft Run ym Mhorthaethwy wedi penderfynu gohirio rhediad eleni.

Fel y gallwch ddychmygu mae'n cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech drwy gydol y flwyddyn ac ar y diwrnod i gynnal y digwyddiad ac rydym yn dibynnu'n fawr ar bobl leol a busnesau i gefnogi'r digwyddiad.

Yn anffodus, mae llai o rafftiau a gostyngiad sylweddol yn ein refeniw hysbysebu a nawdd nid yn unig yn ei gwneud hin anodd cynnal y digwyddiad ond hefyd yn cael effaith ar ein prif bwrpas, y gallu i godi arian at achosion da lleol, ac mae hyn wedi ein harwain i wneud y penderfyniad anodd hwn.

Y newyddion da fodd bynnag yw bod y flwyddyn nesaf yn ddaucanmlwyddiant pont y Borth a'n haddewid i bobl Porthaethwy yw y byddwn yn ôl, yn fwy ac yn well ar gyfer 2026!

Mae'r Great Strait Raft Run yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr lleol, felly fyddwn ni yn ôl! Gwyliwch amdanom mewn amrywiol ddigwyddiadau trwy gydol 2025 wrth i ni gynyddu cefnogaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Felly unwaith eto diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd, edrychwn ymlaen at eich gweld eto yn 2026 pan fyddwn yn ôl gyda'r Ras Rafftiau Fwyaf yng Ngogledd Cymru, digwyddiad lleol sy'n cefnogi achosion lleol!

Her! Hwyl! Hel Arian!

Datganiad Saesneg
Datganiad Cymraeg

Gynhelir yn flynyddol ar ddyfroedd hudolus y Fenai, wedi ei leoli rhwng tirwedd ysblennydd Eryri a phrydferthwch naturiol Ynys Môn mae'n ddiwrnod o hwyl a her a hel arian i achosion da.

Gan ddechrau o'r hen borthladd llechi Felinheli aiff y rafftiau yn eu blaen heibio i Blas Newydd hanesyddol ac yna ymlaen tuag at Porthaethwy. Ar y ffordd rhaid mynd o dan y ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, campweithiau peirianyddol Robert Stephenson a Thomas Telford - pontydd Britannia a Menai, yn ogystal a morio drwy'r heriol ac enwog Swellies neu Pwll Ceris.

Newyddion diweddaraf

3 Mehefin 2024

Canlyniadau ddoe...

31 Mai 2024

Beaksmacking, motivating, raft building, fun rowing, bridge passing, Swellies dodging, oar paddling, ever giving, fund raising, great tasting...

Great Strait Raft Run!

31 Mai 2024

Da ni'n chwilio am gymorth. Jest am chydig, ar ddiwrnod o hwyl a hel pres i achosion da LLEOL

Cysylltwch info@greatstraitraftrun.co.uk

23 Mawrth 2023

'Da ni'n hynod falch a diolchgar lawn ...lawn am y cetnogaeth hael gan noddwyr newydd sbon