Hanes
Ar Fai 29ain 1984 pan hwyliodd y rafft cyntaf o Felinheli roedd pawb a gymerodd rhan yn mentro'n fawr iawn. Cychwynodd dau rafft ar bymtheg a cwblhaodd pob un y cwrs ym Mhorthaethwy yn ddiogel. Roedd yn fenter anturus ac ychydig yn arswydus. Er i ambell un amau callineb y rhai gymerodd ran gan ddatgan '...tydio erioed wedi ei wneud o'r blaen' neu wfftio'r syniad o wynebu'r Swellies (Pwll Ceris) ar rafft roedd 'na lawer mwy o agweddau positif...'Mae'n beth reit wallgo' i wneud, ond gallai fod yn hwyl!'.
Cymaint oedd llwyddiant y 'Run' cyntaf penderfynwyd trefnu un arall ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Ganwyd y 'Raft Run'.
Cynhaliwyd y cyntaf ar Wyl y Banc Sulgwyn. Nid y rafftiau'n unig oedd yn y cychwyn ond yn ogystal Gwylwyr y Glannau, bad achub Beaumaris, Ambiwlans St. John's, Radio Cymru, HTV a miloedd o fobl i wylio.
Llwyddwyd i hel £13,000 tuag at amryw o achosion da lleol. Parhaodd i dyfu o flwyddyn i flwyddyn, gan dyfu i fod y digwyddiad elusennol mwyaf yng Ngogledd Cymru, gan hel dros £100,000 yn y pedair mlynedd cyntaf. Ynghyd a Phwyllgor y Rafft dechreuodd Y Bwrdd Crwn drefnu'r ras. Wedi cyrraedd uchafbwynt o 50 o rafftiau dechreuodd y niferoedd leihau, a rhoddwyd gorau i drefnu'r ras gan y Llewod ar ddiwedd yr 80au.
Yn 2002 atgyfodwyd 'The Great Menai Strait Raft Run' a cynhaliwyd y ras newydd. Eglurodd cadeirydd y Pwyllgor Scottie McLeod rywfaint o'r hanes: "Yn 2001 penderfynodd criw lleol o'r Mostyn Arms ym Mhorthaethwy gysylltu gyda Bwrdd Crwn Ardal Bangor gyda'r bwriad o ail-sefydlu 'The Great Menai Strait Raft Run'. Wedi cydweithio gyda Bwrdd Crwn Caernarfon cytunwyd i atgyfodi'r ras ym Mehefin 2002. Bellach caiff ei drefnu gan bwyllgor o wirfoddolwyr lleol er budd y gymdeithas leol".